Available translations: English

Llinyn allweddol o ERAMMP yw ymgymryd ag Arolwg Maes Cenedlaethol yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth er mwyn gwerthuso cynllun amaethyddol-amgylcheddol Glastir a Rheoli Tir yn Gynaliadwy parhaus.  

Gan ail-samplu’r holl 300 sgwâr 1 cilomedr a gafodd eu samplu yn ystod y Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP, 2013-2016), bydd ein tîm arbenigol o 37 o dir fesurwyr yn cofnodi llawer o agweddau ar gefn gwlad Cymru, gan gynnwys ei chynefinoedd, ei rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, ei dŵr a’i phridd. 

Bydd cofnodi cyflwr presennol amgylchedd naturiol Cymru drwy’r Arolwg Cenedlaethol yn ei gwneud hi’n bosib cynnal asesiad o safon o newid yn y dirwedd dros gyfnod, gan gyfeirio at ddata hanesyddol. 

Ynglŷn â’r Arolwg Cenedlaethol

Mae Arolwg Cenedlaethol ERAMMP yn giplun parhaus a blynyddol i fapio cyflwr yr amgylchedd naturiol ledled Cymru.  

Bydd mesuriadau’n cynnwys:  

Image
Monitoring Cy

Byddwn yn cofnodi tueddiadau byr-dymor a hir-dymor, dros y 40 o flynyddoedd mewn rhai achosion, gan ddatblygu ar sail y GMEP ac arolygon blaenorol eraill.  

Dylid nodi nad yw'r arolwg yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â chydymffurfiaeth na’r broses arolygu ar gyfer unrhyw gynllun taliadau fferm.  

Ystadegau Arolwg ers 2013

300

Mesurwyd llain 1 cilomedr

9000

o leiniau botanegol

5000

Cymerwyd o luniau o’r dirwedd

1320

Cynhaliwyd o arolygon o adar