Effeithiau modelu polisi a rheoli ar gyfer dichonoldeb ffermydd
Mae Llwyfan Modelu Integredig ERAMMP (IMP) yn ddull ar gyfer archwilio effeithiau polisi ac ymyriadau rheoli ar ddichonoldeb ffermydd, defnyddio tir a nwyddau cyhoeddus yng Nghymru yn gyflym.
Gan gymryd ymagwedd integredig, mae’n cydnabod bod gan effeithiau polisi mewn un sector effeithiau anuniongyrchol mewn sectorau eraill. Mae’n cynnwys cadwyn o fodelau arbenigol, o’r radd flaenaf sy’n cynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth, penderfyniadau dyrannu defnydd tir, dŵr, aer, pridd, bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystem a phrisio. Mae’r modelau integredig cydraniad gofodol uchel wedi’u cyfuno i greu offeryn i archwilio ymyriadau polisi a rheoli ar gyfer defnyddio tir ac amgylchedd Cymru mewn amrywiaeth o fersiynau o economi a hinsawdd Cymru yn y dyfodol, a’u profi dan straen.
Wedi’i greu i ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru, mae'r IMP wedi’i ddefnyddio i archwilio effeithiau cytundebau masnach Brexit ar y sector amaethyddol a chanlyniadau amgylcheddol eraill a bellach, mae’n cael ei ddatblygu ymhellach er mwyn llywio datblygiad taliadau amaethyddol-amgylcheddol Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC). Bydd modelu CFfC yn cynrychioli'r elfennau (Haen 1) gorfodol o'r cynllun i archwilio effeithiau lefelau taliadau gwahanol ar gyfer dichonoldeb ffermio ac effaith amgylcheddol. Mae holl allbynnau'r IMP yn cydymffurfio â'r Aqua Book a chaiff unrhyw dybiaethau a ddefnyddir eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae datblygiad yr IMP wedi’i arwain gan UKCEH mewn partneriaeth â Phrifysgol Cranfield, Forest Research, ADAS, BTO ac eftec.
Amcanion yr IMP
Prif amcan yr IMP yw gwneud hi’n bosib asesu opsiynau polisi adnoddau naturiol yn gyflym.
Mae ymyriadau polisi (megis newidiadau mewn cymorthdaliadau amaethyddol) yn gweithredu fel mewnbynnau ar gyfer yr IMP, ochr yn ochr ag amnewidion amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol, gan ddefnyddio allbynnau i brofi effeithiau amgylcheddol, amaethyddol ac economaidd-gymdeithasol yr opsiynau polisi hyn dan straen.
Mae archwilio cyflym y polisi adnoddau naturiol a rheoli tir dan ystod o senarios economaidd a hinsoddol y dyfodol wedi’u halinio lle bo’n bosib â chanlyniadau nwyddau cyhoeddus a rheoli tir yn gynaliadwy (SLM) Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- Ansawdd aer
- Iechyd cyhoeddus
- Cydbwysedd nwyon tŷ gwydr
- Bioamrywiaeth
- Ansawdd dŵr uchel
- Cynhyrchiant
- Cadwraeth dreftadol
- Gwella tirwedd naturiol
- Canlyniadau cymdeithasol (e.e. mynediad i'r cyhoedd, adloniant awyr agored).