Asesiadau modelu ymatebol
Prif nod Quick Start ERAMMP oedd darparu Llywodraeth Cymru ag asesiad cychwynnol a chyflym o’r newidiadau posib yn sgil senarios Brexit ac archwilio’r cysyniad cynllun nwyddau cyhoeddus.
Roedd y canlynol yn nodweddion allweddol o’r asesiad Quick Start:
- Yn tynnu ar farn arbenigol o bolisi LlC wrth ddatblygu senarios argyhoeddiadol
- Yn defnyddio cydraniad graddfa maes, fferm a dalgylch gan ddibynnu ar berthnasedd i fudd y cyhoedd
- Gallu defnyddio data gweinyddol (IACS)
- Yn cynnwys modelau prosesau sy’n galluogi sensitifrwydd o ran yr hinsawdd bresennol
- Mae allbynnau wedi’u modelu ac nid ydynt yn torri diogelu data personol/GDPR
Allbynnau sy’n cael eu cynnwys
- Coedwigaeth (atafaeliad C coetiroedd a’u gwerth amnewidiol ar gyfer ynni ac adeiladu a gyfrifwyd ond nas adroddwyd arno eto)
- Rheoleiddio'r hinsawdd (allyriadau nwyon tŷ gwydr, pridd a mawn C)
- Dŵr (maetholion a gwaddodion i afonydd)
- Aer (allyriadau a ffurfiad gronynnau)
- Iechyd (ansawdd aer (PM2.5) ac effeithiau ar iechyd dynol)
- Bioamrywiaeth (bioamrywiaeth planhigion; effaith ar adar magu)
- Adloniant
Caiff yr holl allbynnau, ac eithrio bioamrywiaeth, eu mynegi fel gwerth economaidd lle bo’n briodol, a chaiff yr holl ansicrwydd ei asesu drwy restr dryloyw o’r holl dybiaethau a thrwy farn arbenigol
Roedd Quick Start ERAMMP ar gyfer asesiad cychwynnol cyflym iawn o newid. Am asesiad integredig mwy manwl, gweler yr IMP