Available translations: English

Mae ERAMMP, a’i raglen ragflaenydd GMEP, yn darparu data i gyfrannu at nifer o ddangosyddion Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (LCD). Mae dolenni i rai o’n cyfraniadau yn cynnwys:

ERAMMP Adroddiad-23: Opsiynau ar gyfer Dangosydd Synthetig 44 'Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol' (Bioamrywiaeth)
ERAMMP Adroddiad-78: Adroddiad Interim ar Datblygu Dangosydd 44 (Statws Amrywiaeth Biolegol yng Nghymru)
ERAMMP Adroddiad-85: Datblygiad Dangosydd 44: Statws Amrywiaeth Biolegol yng Nghymru Adroddiad Terfynol

 

Rydym hefyd yn darparu’r data ar gyfer Dangosydd-13 fel y disgrifir ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru yma ac yma ac wedi’u crynhoi isod.

Image
Data a chrynodeb ar gyfer dangosydd llesiant cenedlaethol 13.

Cynnydd yn erbyn y nodau llesiant & Dangosydd 13

Mae’r dangosyddion cenedlaethol yn helpu adrodd hannes am gynnydd yn erbyn y nodau llesiant. Dangosydd-13 yw'r crynodiad o garbon a mater organig yn ein pridd. Mae'n ffactor sy'n cyfrannu at sawl Cerrig Milltir Cenedlaethol.

Dangosydd 13: Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd

LCD Dangosydd-13 yw’r swm mesuredig o garbon pridd a chynnwys deunydd organig mewn uwchbridd (0-15cm) wedi’i fesur mewn gramau o garbon y cilogram (gC y Kg). Caiff ei fesur o samplau pridd gan ddefnyddio'r fethodoleg colled wrth danio i bennu crynodiad carbon y pridd.

Cymerwyd samplau o bob un o 26 dosbarth tir yng Nghymru, ar gyfer yr elfen Arolwyg Cefn Gwlad Prydain Fawr o Arolwg Maes Cenedlaethol ERAMMP. Gwneir hyn mewn 300 o sgwariau sampl 1km, a bwriedir iddo cwmpasu Cymru gyfan. Nid yw'r arolwg yn cynnwys ardaloedd dinesig tra-datblygedig  ac felly ni ddylid ei ystyried fel rhestr ar gyfer safleoedd tir llwyd. Mae'r arolwyg hwn yn ailarolwg uniongyrchol o'r safleoedd (sy'n cynrychioladwy ar lefel cenedlaethol) o fewn arolwg maes cenedlaethol Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP) (2013-16) ac yn defynyddio dulliau union yr un fath.

Beth mae'r data yn ei ddweud?

Yn ol y wybodaeth ddiweddaraf gan yr ERAMMP, mae'r crynodiad o ddeunydd carbon ac organig mewn pridd yn gyffredinol sefydlog, a'r gwerth oedd 80.4 gC y kg yn 2021-23. Mae hyn yn debyg iawn i'r 2013-2016 GMEP sef 81.8 gC fesul Kg (crynodeb o'r canlyniadau yma). Mae'r gwerthoedd a adroddir yn is na'r crynodiadau a adroddwyd ar gyfer arolygon Cefn Gwlad 1998 a 2007 (109 gC fesul Kg yn y ddau) oherwydd gwelliant yng nghwmpas yr arolwg maes.

Aseswyd statws a newid crynodiad carbon gan ddefnyddio data arolwg ailadroddus o raglenni arolwg maes GMEP ac ERAMMP. Roedd hyn yn wahanol i adroddiadau blaenorol, lle aseswyd newid trwy gysylltu crynodiad carbon yn ystadegol, yn GMEP a monitro blaenorol o'r Arolwg Cefn Gwlad, a ddefnyddiodd ddull samplu cydnaws ond a oedd yn cynnwys llai o safleoedd monitro. Ystyrir bod y dull presennol, a wnaed yn bosibl gan ERAMMP, yn rhoi gwerth mwy cadarn a chynrychioliadol i Gymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth gweler Llesiant Cymru ar LLYW.CYMRU