Available translations: English

Llywio polisi ar gyfer dyfodol cynaliadwy a ffermio gwydn 

Mae Adolygiad o Becyn Tystiolaeth Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) yn set o adroddiadau ac atodiadau technegol a gyhoeddwyd yn 2019 a 2020. Maent yn crynhoi meddwl academaidd cyfredol ar amrywiaeth o bynciau arbenigol amaethyddol ac amgylcheddol ac fe’u crewyd i helpu i lywio Llywodraeth Cymru wrth iddi chwilio am farn ar gynigion i gefnogi ffermwyr yn dilyn Brexit. 

Archwiliodd yr adolygiadau hyn y dystiolaeth am ymyriadau ynghylch sawl maes allweddol, a’u cysylltiadau achosol â chanlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol, gydag asesiad integredig i amlygu'r canfyddiadau allweddol a’u rhyngddibyniaethau.