Hysbysu, Monitro a Gwerthuso Rheoli Tir yn Gynaliadwy
Mae amgylchedd Cymru yn cefnogi sectorau economaidd arwyddocaol gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a choedwigaeth ac mae’n bwysig i feysydd polisi eraill gan gynnwys iechyd a llesiant, ynni a seilwaith. Er mwyn datblygu polisïau sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac i werthuso gweithrediad y rhaglen, mae’n ofynnol bod gan Lywodraeth Cymru Raglen gadarn ar gyfer Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig.
Mae Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) yn datblygu dealltwriaeth o Reoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) yn achos tirwedd Cymru drwy hyrwyddo cydweithio â chonsortiwm o bartneriaid sy’n cynnig eu harbenigedd gorau a gweithgareddau parhaus ar draws y gymuned monitro a modelu.
Darpariaeth Monitro, Modelu a Thystiolaeth
Mae ERAMMP yn cynyddu hyder yn ein sylfaen tystiolaeth i gefnogi llesiant cynaliadwy cenedlaethau’r dyfodol drwy gyflwyno rhaglen integredig o fonitro a modelu.
Wrth gasglu data o bob rhan o dirwedd Cymru a defnyddio modelau i gyrchu newid ac effaith yn y dyfodol, wrth ddarparu'r dystiolaeth a’r ddealltwriaeth mae eu hangen ar Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu polisïau effeithiol sy’n datblygu gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Nod y rhaglen yw darparu tystiolaeth ac arbenigedd sy’n hanfodol o ran busnes drwy dair cydran ryngberthynol, sef Monitro (Arolwg Maes Cenedlaethol), Modelu (Llwyfan Modelu Integredig) a darpariaeth Tystiolaeth a chyngor arbenigol.




Themâu Trawsbynciol
Drwy Fonitro, Modelu a Darparu Tystiolaeth, mae ERAMMP yn cynnwys amrywiaeth eang o themâu amgylcheddol a chymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth am:
- Dŵr
- Bioamrywiaeth
- Aer
- Coetiroedd
- Nwy Tŷ Gwydr
- Pridd a Mawn
- Treftadaeth Ddiwylliannol
- Tirwedd
- Adloniant a Mynediad
- Rhyngwyneb rhwng y tir a’r môr
- Archwilio'r themâu trawsbynciol
Partneriaid y Rhaglen
Mae ERAMMP yn gynllun arloesol i ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru. Dan arweiniad Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH) ar ran Llywodraeth Cymru, gan gyfuno consortiwm mawr o bartneriaid eraill i sicrhau bod gan y rhaglen uchelgeisiol hon yr arbenigedd cywir ac sy’n manteisio i’r eithaf ar y gweithgareddau presennol o bob rhan o’r gymuned monitro a modelu.
Mae’r Partneriaid Rhaglen hyn yn cynnwys: