Mae’r adroddiad ERAMMP hwn yn werthusiad annibynnol o dueddiadau cenedlaethol presennol adnoddau naturiol Cymru a chanlyniadau cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir (AES). Mae Cymru’n unigryw ymhlith pedair Gwlad y DU o ran y ffaith bod ganddi, a’i bod yn cynnal, rhaglen fonitro genedlaethol integredig hirdymor ar draws ei hamgylchedd gwledig. Mae ansawdd ac ehangder y sylfaen dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad yn ddigyffelyb. Mae cynllun y rhaglen yn ein galluogi i gymharu canlyniadau'r 10 mlynedd diwethaf â'r rheiny sydd mewn Arolygon Cefn Gwlad hanesyddol sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au. Yn ogystal, mae’r un cynllun a methodolegau a ddefnyddiwyd ar gyfer adrodd ar dueddiadau cenedlaethol wedi’u defnyddio ar gyfer gwerthusiad Glastir. Mae hyn yn galluogi i gyfraniad Glastir gael ei asesu ar gyfer tir lle defnyddiwyd opsiynau rheoli a hefyd sut maen nhw’n cydgrynhoi er mwyn cyfrannu at y tueddiadau cenedlaethol a adroddwyd.
Yn ôl y canlyniadau, er nad ydym bellach yn gweld gostyngiadau hirdymor eang, nid ydym yn gweld y newid trawsnewidiol sydd ei angen i fodloni polisïau amgylcheddol LlC ac amcanion cynllun Glastir. Er bod nifer o ganlyniadau cadarnhaol wedi'u cofnodi, mae arwyddion sy'n peri pryder hefyd bod tueddiadau negyddol newydd a pharhaus i’w gweld. Mae angen gwneud dadansoddiad pellach i archwilio'r rhesymau am hyn ond mae'r diffyg addasu arferion rheoli mewn ymateb i newid hinsawdd a llygredd parhaus yn un posibilrwydd.
Ni fyddai’r adroddiad hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth yr holl ffermwyr a groesawodd ein timau arolygu ar eu tir, ein grŵp cynghori rhanddeiliaid sy’n cynnwys yr undebau ffermio a roddodd eu cyngor a’u cymorth, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gasglu tystiolaeth wyddonol gadarn i lywio’r gwaith o werthuso a datblygu polisïau.