Available translations: English

Am y polisi preifatrwydd perchennog tir ac arolwg maes (os yw wedi cofrestru gyda RPW yn 2021 neu 2022)
Ar gyfer polisi preifatrwydd yr arolwg os nad yw wedi cofrestru gyda RPW yn 2021 neu 2022
Mae polisi preifatrwydd y Cylchlythyr

Hysbysiad Preifatrwydd 

Cyfraith sy’n weithredol ledled Ewrop yw’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). sy'n rhan o becyn diwygio ehangach i ddiogelu data sy'n cynnwys Deddf Diogelu Data (DPA) 2018. Mae'r GDPR a DPA 2018 yn nodi'r gofynion ar gyfer sut bydd angen i sefydliadau brosesu data personol o 25 Mai 2018.

Mae gwefan ERAMMP yn cael ei chynnal a’i chadw gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH). Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan gaiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei ddiwygio yn ôl yr angen ac fe'ch anogir i ail-edrych ar yr hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd i ddarllen y fersiwn ddiweddaraf. Mae'r fersiwn hon yn ddyddiedig 1 Rhagfyr 2019.

Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein safbwyntiau a’n harferion ynglŷn â'ch data personol a sut y byddwn yn ei brosesu. Drwy fynd i www.ceh.ac.uk a gwefannau cysylltiedig, rydych chi'n derbyn ac yn rhoi caniatâd i’r arferion a ddisgrifir yn y polisi hwn.

Pwy ydym ni

Enw a manylion cyswllt ein rhiant-sefydliad

Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
Maclean Building, Benson Lane
Crowmarsh Gifford
Wallingford
Oxfordshire
OX10 8BB

Ffôn: +44 (0)1491 838800

Ffacs: +44 (0)1491 692424

Rydym yn gwmni nid-er-elw cyfyngedig trwy warant gyda statws elusennol. Rydym yn gweithredu fel partner cyflawni strategol ar gyfer Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, rhan o Ymchwil ac Arloesedd yn y DU.

Enw a manylion cyswllt ein cynrychiolydd diogelu data

Swyddog Diogelu Data y UKCEH yw Quentin Tucker.

Data Personol

Mae'r adran hon o'r hysbysiad preifatrwydd yn darparu gwybodaeth am: pwrpas y prosesu data; sail gyfreithlon y prosesu; gwybodaeth bellach lle mae'r sail gyfreithlon o fudd dilys ar gyfer y prosesu; y categorïau o ddata personol a gesglir (os nad yw’r data personol wedi’i dderbyn gan yr unigolyn y mae'n gysylltiedig ag ef).

Ymwelwyr â’n gwefan a gwefannau cyswllt

Bydd yr adran berthnasol o'n hysbysiad preifatrwydd yn dibynnu ar bwrpas eich ymweliad â'n gwefan.

Yr amodau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i brosesu gwybodaeth bersonol

Mae’r gyfraith ar ddiogelu data yn nodi’r rhesymau pam y gallwn gasglu a phrosesu eich data personol. Rydym yn dibynnu ar yr amodau cyfreithiol canlynol i brosesu eich data personol:

Contract: lle bo angen ar gyfer cyflawni'r cytundeb, contract neu brydles yr ydych yn barti iddo neu ar gyfer prosesau sy'n ymwneud ag ymrwymo i'r cytundeb, contract neu drwydded;

Buddiannau cyfreithlon: mewn sefyllfaoedd penodol, rydym angen eich data i ymgymryd â'n buddiannau busnes cyfreithlon o redeg ein busnes fel sefydliad aelodaeth, a chorff proffesiynol, ac nad yw'n effeithio'n sylweddol ar eich hawliau, rhyddid neu fuddiannau.

Cydymffurfiaeth gyfreithiol: os yw'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni, efallai y bydd angen i ni gasglu a phrosesu eich data.

Caniatâd: mewn sefyllfaoedd penodol, gallwn gasglu a phrosesu eich data gyda'ch caniatâd.

Mae yna hysbysiadau penodol ar gyfer

Manylion trosglwyddo data personol i unrhyw drydydd gwlad neu sefydliadau rhyngwladol

Oni nodir yn wahanol, caiff eich gwybodaeth ei phrosesu yn y DU ac Ardal Economaidd Ewrop (AEE).

Yn yr achosion hynny lle mae'ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu y tu allan i'r DU neu'r AEE, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â gofynion diogelu data GDPR a'r DPA. Mae gwefan y UKCEH yn cael ei chynnal gan Pantheon yn UDA ac mae'n cael ei diogelu drwy Warchodaeth Preifatrwydd yr UE – Unol Daleithiau.

Cyfnodau cadw data personol

Mae cadw data personol yn cael ei lywio gan atodlen gadw UKCEH. Gellir cadw cofnodion prosiectiau Ymchwil Gwyddonol am 10 ac 20 mlynedd ar ôl i'r prosiect gael ei gwblhau, neu am byth mewn amgylchiadau eithriadol.

Yr hawliau sydd ar gael i unigolion o ran prosesu

Mae GDPR/ DPA 2018 yn rhoi’r hawliau canlynol i unigolion:

  1. Yr hawl i gael gwybod
  2. Yr hawl i gael mynediad
  3. Yr hawl i gywiro
  4. Yr hawl i ddileu
  5. Yr hawl i gyfyngu prosesu
  6. Yr hawl i gludo data
  7. Yr hawl i wrthwynebu
  8. Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio’n awtomatig

Am fwy o fanylion ynglŷn â hawliau unigolion ewch i ganllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar GDPR.

Gall y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg effeithio ar ba hawliau sydd ar gael i unigolion. Er enghraifft, ni fydd rhai hawliau yn berthnasol:

Mae gan unigolyn bob amser yr hawl i wrthwynebu prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol, beth bynnag fo'r sail gyfreithiol. Nid yw'r hawliau sy'n weddill bob amser yn absoliwt, ac mae hawliau eraill y gellir effeithio arnynt mewn ffyrdd eraill. Os yw’r UKCEH yn dibynnu ar fuddiannau dilys, bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu yn yr hysbysiad preifatrwydd i gydymffurfio â'r hawl i gael gwybod. Amlinellir isod fanylion pellach ynglŷn â sut mae'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data yn effeithio ar yr hawliau sydd ar gael i chi.

Contract

Os ydych chi'n prosesu ar sail contract, ni fydd eich hawl i wrthwynebu a hawl i beidio â bod yn ddarostyngedig i benderfyniad sy’n seiliedig ar brosesu awtomatig yn unig, yn berthnasol. Serch hynny, bydd gennych hawl i gludo data.

Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Os yw'ch data yn cael ei brosesu ar sail rhwymedigaeth gyfreithiol, nid oes gennych yr hawl i ddileu, yr hawl i gludo data, na’r hawl i wrthwynebu.

Tasg Gyhoeddus

Ni fydd eich hawliau i ddileu a chludo data yn berthnasol os caiff eich data ei brosesu ar sail tasg gyhoeddus. Serch hynny, mae gennych hawl i wrthwynebu.

Buddiannau Dilys

Pan fydd y UKCEH  yn dibynnu ar fuddiannau dilys, nid yw'r hawl i gludo data yn berthnasol.

Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl (os yn gymwys)

Pan fydd eich data personol yn cael ei brosesu drwy ddefnyddio caniatâd fel y sail gyfreithlon, mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Fe'ch hysbysir am y ffyrdd y gallwch dynnu'ch caniatâd yn ôl.

Yr hawl i wneud cwyn gydag awdurdod goruchwylio

I ddechrau, soniwch am eich pryder wrh UKCEH: cysylltwch â'r tîm sy'n prosesu'ch data. Gellir codi unrhyw bryderon parhaus a allai fod gennych gyda Swyddog Diogelu Data’r UKCEH, Quentin Tucker

Os nad yw UKCEH wedi datrys eich pryder ynglŷn â hawliau gwybodaeth, gallwch godi'r mater gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy sgwrs fyw neu drwy ffonio 0303 123 1113.

Darparu Gwybodaeth Preifatrwydd

Mae nifer o ffyrdd y mae’r UKCEH yn darparu gwybodaeth am breifatrwydd, gan gynnwys:

  • Rhoi gwybodaeth am breifatrwydd i unigolion adeg casglu eu data personol.
  • Os byddwn yn cael data personol o ffynhonnell heblaw'r unigolyn y mae'n gysylltiedig ag ef, rydym yn rhoi gwybodaeth am breifatrwydd iddynt:
    • o fewn cyfnod rhesymol o dderbyn y data personol a dim hwyrach na mis;
    • os ydym yn bwriadu cyfathrebu â'r unigolyn, byddwn yn gwneud hynny pan fydd y cyfathrebiad cyntaf wedi digwydd fan hwyraf;
    • os ydym yn bwriadu datgelu'r data wrth rywun arall, byddwn yn gwneud hynny pan ddatgelir y data fan hwyraf.

Sut mae’r UKCEH yn darparu gwybodaeth am Breifatrwydd

Ein nod yw darparu’r wybodaeth mewn ffordd sy’n:

  • Gryno;
  • Tryloyw;
  • Dealladwy;
  • Ar gael yn hawdd; a
  • Defnyddio iaith glir a dealladwy.

Newidiadau i’r wybodaeth

  • Mae’r UKCEH yn adolygu'n rheolaidd a, lle bo angen, yn diweddaru ein gwybodaeth am breifatrwydd.
  • Os yw’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn bwriadu defnyddio data personol am reswm newydd, rydym yn diweddaru ein gwybodaeth am breifatrwydd ac yn cyfathrebu'r newidiadau hynny i unigolion cyn dechrau unrhyw brosesu newydd.

Cofrestr o Weithgareddau Prosesu

  • Mae UKCEH yn cynnal archwiliad gwybodaeth i ddarganfod pa ddata personol sydd gennym a beth rydym yn ei wneud ag ef.
  • Mae UKCEH yn rhoi ein hunain yn sefyllfa'r bobl rydym yn casglu gwybodaeth amdanynt.
  • Bydd UKCEH yn cynnal profion ymhlith defnyddwyr i werthuso pa mor effeithiol yw ein gwybodaeth am breifatrwydd.

Darparu Gwybodaeth am Breifatrwydd

Wrth ddarparu ein gwybodaeth am breifatrwydd i unigolion, rydym yn defnyddio cyfuniad o dechnegau priodol.

Gwefannau Cysylltiedig

Pan fo'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau sydd wedi'u cynnal/gwefannau cysylltiedig, bydd y wefan yn darparu dolen i'r hysbysiad preifatrwydd hwn, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol am breifatrwydd sy'n berthnasol.   

Defnyddwyr ein gwefan a gwefannau cysylltiedig

Rydym yn defnyddio dulliau gwahanol i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch ar ein gwefannau sy’n cael eu cynnal gan y UKCEH. Caiff eich gwybodaeth ei defnyddio i ddarparu'r gwasanaethau rydych wedi gofyn amdanynt ac i gysylltu â chi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lawrlwytho meddalwedd, ceisiadau trwyddedu data, gorchmynion cyhoeddi, cofrestru ar gyrsiau hyfforddi, tanysgrifio i'n cylchlythyr ac ymholiadau cyffredinol, yn ogystal â gwella profiadau defnyddwyr wrth ddefnyddio ein gwefan.

Technolegau neu ddulliau rhyngweithio sydd wedi’u hawtomeiddio

Pan fyddwch yn defnyddio ein gwefannau (yn cynnwys gwefan y UKCEH a'n gwefannau cysylltiedig ond heb fod yn gyfyngedig i’r rheini), efallai y byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol amdanoch:

  • y cyfeiriad IP a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â’r rhyngrwyd
  • gosodiad eich cylchfa amser
  • eich darparwr rhyngrwyd
  • eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, sefydliad, lle rydych wedi rhoi’r wybodaeth hon yn benodol ar we-ffurflen.

Efallai y byddwn hefyd yn casglu'r wybodaeth ganlynol am eich ymweliad:

  • y Lleolwr Adnoddau Unffurf llawn etc.
  • y tudalennau wnaethoch eu gweld, gan gynnwys ein cynhyrchion a'n tudalennau meddalwedd;
  • faint o amser a dreuliwyd ar bob tudalen;
  • hyd yr ymweliadau â thudalennau penodol;
  • gwybodaeth am ryngweithio fesul tudalen (fel cliciadau, lawrlwytho, we-ffurflen)

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n defnyddwyr ar y we. Mae'n ein galluogi i weinyddu ein gwefan, gan gynnwys ein hymdrechion i'w gadw'n ddiogel, a chynnal gweithrediadau mewnol gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi ac ymchwil ystadegol. Mae hyn yn golygu y gallwn wella ein gwefannau i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi.

Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i'ch gwahaniaethu chi wrth ddefnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu i roi profiad da i chi pan fyddwch yn edrych ar ein gwefan a hefyd yn ein galluogi i wella ein gwefan. Am wybodaeth fanwl ynglŷn â’r cwcis rydym yn eu defnyddio a’u dibenion, gweler ein polisi cwcis.

Gwasanaethau trydydd parti

Gall rhai rhannau o’r UKCEH ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti, gan gynnwys Twitter, Facebook, Microsoft O365 ac Outlook a fel ffordd i'ch galluogi i rannu cynnwys. Mae’r UKCEH yn defnyddio Mailchimp i ddosbarthu rhai o'i chylchlythyrau. Gweler mwy o fanylion am ein defnydd trydydd parti. Nid yw prosiect ERAMMP yn defnyddio MailChimp ac mae ganddo hysbysiad preifatrwydd cylchlythyr ar wahân sydd ar gael yma.

Dolenni

O bryd i’w gilydd, gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau ein rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chysylltiadau eraill. Os ydych yn dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, cofiwch fod gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau a allai fod ar gael arnynt, eu hysbysiadau preifatrwydd eu hunain, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth am y polisïau hyn nac am unrhyw ddata personol a allai gael ei gasglu drwy'r gwefannau neu'r gwasanaethau hyn. Gallwch fwrw golwg ar y polisïau cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn neu ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.