Available translations: English

Mae modelu yn cynnig cyngor er mwyn cefnogi Rheoli Tir yn Gynaliadwy yng Nghymru

Gyda datblygiadau monitro, ansawdd data a chymhlethdod modelu, mae offerynau cefnogi penderfyniadau bellach yn cynnig cymorth sylweddol i bobl sy’n gwneud penderfyniadau ar draws amrywiaeth eang o bortffolios polisi sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau naturiol.  

Gellir datblygu modelau i fod yn offerynnau i wella tystiolaeth a chyfrannu at nodi rhesymeg ymyrraeth tirwedd ar raddfa, llywio gwaith cynllunio polisi, gwneud hi’n bosib gweithredu ar sail targedau, nodi cyfaddawdau polisi a buddion, a meintoli sbardunwyr allanol megis newid yn yr hinsawdd.  

Gellir hefyd ddefnyddio modelau ar gyfer gwerthusiad rhagfynegol, gan amcangyfrif effaith bosib polisïau cyn eu rhoi ar waith, gan ei gwneud hi’n bosib i benderfynwyr brofi ystod o senarios i gynyddu gwerth am arian canlyniadau polisi yn fawr a chan helpu i osgoi canlyniadau anfwriadol. 

Yn ERAMMP, mae ffurfiau modelu yn weithgaredd craidd ar draws y rhan fwyaf o’n hymchwil a’n hasesiadau. Y ddau brif ddull ar gyfer effaith yw’r Llwyfan Modelu Integredig (IMP) a’r modelu dechrau Quick Start cyflym.  

Modelu yn ERAMMP