Available translations: English

Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwefannau Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP)

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://erammp.wales a https://erammp.cymru. Mae'r ddau URL yr un wefan - maent yn dechrau ar wahanol dudalennau o fewn y map safle cyffredinol.

Mae'r gwefannau hyn yn cael eu lletya a'u cynnal gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) ar ran Rhaglen Monitro a Modelu'r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu:

  1. Gallwch ddefnyddio chwyddo eich porwr i chwyddo'ch golwg hyd at 200% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
  2. Gallwch lywio'r rhan fwyaf o'r wefan mewn trefn resymegol trwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  3. Gallwch neidio i'r prif gynnwys wrth ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  4. Gallwch wrando ar y rhan fwyaf o'r wefan trwy ddefnyddio darllenydd sgrin.

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae ganAbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

 

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  1. Nid yw pob rheolydd y gellir ei glicio yn hygyrch i fysellfwrdd
  2. Nid yw rhai dogfennau'n hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrin, mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o'r adroddiadau rydym yn trefnu eu bod ar gael trwy'r wefan hon
  3. Nid yw rhai dolenni ar ein gwefan yn hunanesboniadol ar gyfer defnyddiwr darllenydd sgrin
  4. Nid oes gan rai meysydd gymhareb cyferbyniad digon uchel
  5. Mae angen rhoi testun amgen ac enw hygyrch i rai delweddau
  6. Nid yw priodoleddau iaith ar rai tudalennau wedi'u gosod yn gywir
  7. Nid yw rhai tudalennau'n gweithio'n dda â darllenwyr sgrin pan yw dalennau arddulliau wedi'u diffodd

 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: erammp@ceh.ac.uk
Ffôn 01248 374500
Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
Canolfan yr Amgylchedd Cymru
Ffordd Deiniol
Bangor, LL57 2UW
UK

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn diwallu gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

Bronwen Williams
Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU
Canolfan yr Amgylchedd Cymru
Ffordd Deiniol
Bangor, LL57 2UW
UK
E-bost: erammp@ceh.ac.uk
Ffôn: 01248 374528

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus ynghylch sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

 

Gwybodaeth dechnegol ynghylch hygyrchedd y wefan hon

Mae UKCEH wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 – Safon AA, oherwydd y diffygion cydymffurfio a'r esemptiadau a restrir isod.

 

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw pob rheolydd y gellir ei glicio'n hygyrch ar fysellfwrdd. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A F15. 

Nid oes gan bob rheolydd y gellir ei glicio rôl ARIA. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A F54.

Gall lleoli CSS wneud tudalennau'n annarllenadwy pan yw dalennau arddull wedi'u diffodd. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A F1.

Nid yw rhai elfennau'n cynnwys testun neu img â phriodoledd alt . Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A F89.

Ni nodir penawdau rhes a cholofn mewn tablau data trwy ddefnyddio elfennau ‘th’ ,ac nid yw tablau cynllun yn cael eu marcio â rôl = cyflwyniad. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A F91. Nid oes gan rai elfennau ‘Img’ enw hygyrch. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A F65.

Mae rhai elfennau botwm yn wag ac nid oes ganddynt enw hygyrch. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A 4.1.2.

Ni nodir iaith rhai tudalennau trwy ddefnyddio’r briodoledd ‘lang’ . Mae hyn yn methu WCAG 2.1 A 3.1.1.

Nid oes cymhareb cyferbyniad digon uchel rhwng y testun a'r cefndir mewn rhai meysydd. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 AA 1.4.3.

Mae rhai ‘penawdau’ yn wag. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 AA G130.

Nid yw rhai ymadroddion mewn iaith wahanol mewn ‘span’ neu ‘div’ â phriodoledd ‘lang’ . Mae hyn yn methu WCAG 2.1 AA 3.1.2.

Mae amlinelliad CSS neu arddull ffin rhai elfennau yn ei gwneud yn anodd neu'n amhosibl gweld amlinelliad ffocws y ddolen ddotiog. Mae hyn yn methu WCAG 2.1 AA F78.

 

Gweithgareddau wedi'u cynllunio

Rydym yn parhau i weithio ar ddatrys y problemau hygyrchedd hyn ac yn bwriadu gweithredu'r eitemau hynny y gallwn eu datrys erbyn diwedd eleni [2021]. Rydym yn bwriadu diweddaru'r datganiad hwn ym mis 30/3/2022.

Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i drwsio rhai ffeiliau PDF sydd ar gael o'r wefan hon nad ydynt ar gael yn briodol ar hyn o bryd oherwydd efallai y bydd rhaid i ni weithio ag awduron gwreiddiol y dogfennau hynny i roi'r newidiadau sydd eu hangen ar waith.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ffeiliau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Mae rhai dogfennau PDF ar gael ar y wefan sy'n dod o fewn y categori hwn.

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 30/10/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 19/10/21.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18/10/2021. Rydym wedi cynnal ein profi ein hunain.

Fe wnaethom brofi'r holl dudalennau cyhoeddedig.