Available translations: English

Llwybrau at ddefnyddio tir yn gynaliadwy yng Nghymru

Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol ar gyfer cyrraedd Sero Net wrth hefyd wrthdroi’r golled o ran bioamrywiaeth a chefnogi economïau. I archwilio llwybrau amgen at gyflawni'r nodau hyn, gweithiodd yn agos gyda ni i israddio fersiwn y DU o fodel system bwyd a defnyddio tir, y Cyfrifiannell FABLE (Bwyd, Amaethyddiaeth, Bioamrywiaeth, Defnydd o Dir ac Ynni), a’i deilwra i gyd-destun Cymru.

Defnyddion ni Gyfrifiannell FABLE i archwilio pedwar llwybr: dau oedd yn cynrychioli parhad neu welliant bach i’r sefyllfa bresennol, a dwy ymagwedd amgen at gynaliadwyedd yn seiliedig ar naill ai ymagwedd Creu Cynefin neu Rannu Tir. Mae Creu Cynefin yn tybio gwelliannau uchelgeisiol o ran cynhyrchiant cnydau a da byw i ryddhau tir i fyd natur, fel a fodelwyd yn adroddiadau Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU, ond nod Rhannu Tir yw cyflawni sawl amcan ar yr un tir, sy’n cyd-fynd yn well â chyd-destun defnydd penodol o dir a pholisi Cymru, gyda’i hardaloedd mawr o uwchdir pori garw.

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno'r canfyddiadau o fodelu yn y pedwar llwybr hyd at 2050. Mae’n dangos pwysigrwydd perthynol deiet iach, lleihau gwastraff bwyd a gwelliannau cynhyrchiant amaethyddol wrth fodloni targedau hinsoddol a bioamrywiaeth. Mae hefyd yn archwilio pwysigrwydd tybiaethau ynghylch rhannu pori ar lastiroedd dwys neu arw, a rhannu'r fforest newydd a ddyluniwyd i gefnogi cadwraeth bioamrywiaeth.

Darperir set lawn o allbynnau o Gyfrifiannell FABLE Cymru ar gyfer dangosyddion sy’n ymwneud â newid y defnydd o dir, allyriadau nwyon tŷ gwydr, bioamrywiaeth a deiet mewn sleidiau a gyhoeddwyd ar wahân fel atodiad.