Available translations: English

Mae darpariaeth o dystiolaeth ac asesiadau integredig i eglurhau'r hyn rydym ni’n ei wybod a’r hyn nad ydym ni’n ei wybod yn rhan allweddol o ERAMMP.

Drwy gydol y rhaglen, mae cyfoeth o dystiolaeth o safon yn cael ei ddatblygu i gefnogi datblygiad penderfyniadau effeithlon mewn polisi a rheoli, yn seiliedig ar ymagwedd gadarn at ddatblygu hyder yn ein sylfaen dystiolaeth.  

Gan weithio drwy gydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid, caiff tystiolaeth ei chasglu’n gyflym i ddarparu dealltwriaeth ddefnyddiol y gall defnyddwyr terfynol ei defnyddio ar draws sectorau cyhoeddus, preifat ac nid-er-elw.  

Mae’r ddarpariaeth o dystiolaeth o hyd yn datblygu i fodloni anghenion presennol ac mae holl asesiadau'r gorffennol ar gael yn gyhoeddus.