Available translations: English

Y rhaglen flaenorol i ERAMMP oedd Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP).

Comisiynwyd GMEP (2013-2016) gan Lywodraeth Cymru i asesu perfformiad Glastir.

Glastir yw cynllun rheoli tir cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n talu am nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol sydd wedi’u hanelu at:

  • Brwydro yn erbyn newid hinsawdd 
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Atal colli bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau a'r amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad cyhoeddus i gefn gwlad
  • Creu a rheoli coetiroedd 

LansiwydGMEP ar yr un pryd â chynllun Glastir. Mae hyn yn darparu adborth polisi cyflym sy'n caniatáu i'r cynllun gael ei addasu i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am GMEP yn: GMEP.Wales