Available translations: English

Mae ERAMMP yn cynnig tystiolaeth ar gyfer Adrodd Cenedlaethol 

Caiff y data sy’n cael ei gasglu a’i gynhyrchu yn ERAMMP ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o adroddiadau cenedlaethol, gan gynnwys asesiadau Dangosydd 44, Natura 2000, tirwedd dynodedig ac adrodd SoNaRR.  

Mae adroddiad diweddar SoNaRR2020 wedi cynnwys data sylweddol o ERAMMP, gydag adroddiadau penodol yn cael eu comisiynu drwy ERAMMP i amlygu gwybodaeth allweddol i’w chynnwys. Gweler y dolenni isod am ragor o wybodaeth.