Mae Arsylwi'r Ddaear yn cynnig cyfle cyffrous ar gyfer monitro ac asesu
Gall technegau Arsylwi'r Ddaear (EO) gefnogi asesiadau cenedlaethol o gyflwr er mwyn datblygu dealltwriaeth gyflym o gyflwr cyfredol adnoddau naturiol a llwybr newid o’i gymharu â data’r gorffennol.
Mae defnydd EO yn helaeth, ac wrth ei gyfuno â rhaglen gadarn ar gyfer y ddaear (fel mae ERAMMP yn ei wneud drwy'r Arolwg Maes Cenedlaethol), gall ddarparu lefel uchel o hyder ar raddfa a hyd yn oed asesu ar raddfeydd llai.
Yn ERAMMP, mae EO yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i asesu erydu pridd a nodweddion y dirwedd (megis nodweddion llinellol).
Mae rhagor o wybodaeth drwy'r dolenni isod.