Available translations: English

Mae ein prif bolisi preifatrwydd
Am y polisi preifatrwydd perchennog tir ac arolwg maes

Cylchlythyr ERAMMP Hysbysiad Preifatrwydd [Mai 2021]

Amdanom ni 

Mae’r Cylchlythyr ERAMMP er mwyn rhannu gwybodaeth am weithgareddau a chanlyniadau rhaglenni. 

Fe’i gweithredir gan Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH), sef y rheolwr data. 

 

Mae UKCEH yn sefydliad annibynnol, nid-er-elw, ac yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 1185618), ac yn Yr Alban (rhif SC049849), ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant yng Nghymru a Lloegr (rhif 11314957). 

UKCEH yw’r rheolwr ar gyfer yr holl brosesu data personol at ddibenion yr hysbyseb hwn. 

Ceir prif hysbysiad preifatrwydd UKCEH yma. [https://www.ceh.ac.uk/privacy-notice] 

Pam a sut yr ydym yn casglu eich data? 

Er mwyn casglu'r wybodaeth hon, mae UKCEH yn defnyddio gwasanaethau ‘Email Blaster’ [https://www.emailblasteruk.com/], sy’n cydymffurfio â Deddfwriaeth Diogelu Data y DU. 

Rydym yn prosesu unrhyw ddata yr ydym yn ei gasglu gennych chi, neu yr ydych chi’n ei rannu â ni, ar sail cynnwys hysbysiad preifatrwydd Email Blaster. [https://www.emailblasteruk.com/privacy-policy]

Mae UKCEH yn casglu eich data personol er mwyn darparu’r cylchlythyr allanol hwn ac i gyfathrebu â chi. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y cylchlythyr, byddwn yn cadw’r data personol rydych chi yn ei roi.

Y data personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi yw: 

  • Eich enw 
  • Eich cyfeiriad e-bost 
  • Y sefydliad rydych yn ei gynrychioli 
  • Teitl neu ddisgrifiad eich swydd 

Yng nghylch termau diogelu data, rydym yn defnyddio’r sail gyfreithlon ‘buddiant dilys’ ar gyfer casglu, prosesu a rhannu eich data personol. 

Sut yr ydym yn storio eich data, ac a fyddwn yn ei rannu? 

Bydd eich holl ddata personol a gasglwn yn cael ei storio’n ddiogel yng nghronfa ddata Email Blaster ac yn systemau mewnol UKCEH cyhyd ag y bydd angen i ni gysylltu â chi mewn perthynas ag ERAMMP. Yna byddwn yn dileu’r data personol sydd gennym amdanoch. Bydd eich holl ddata personol yn cael ei storio’n ddiogel yn y DU neu’r UE. 

Rhannu eich data personol 

Ac eithrio sefyllfa lle byddwn o dan rwymedigaeth gyfreithiol i wneud, ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw sefydliad arall, a byddwn yn cadw at Ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU ar bob achlysur. 

Eich hawliau a’ch/a’n pwrpas cyfreithiol 

Mae Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn diffinio’n glir hawliau’r unigolyn ar gyfer eich data. Rydym yn casglu a phrosesu’r data yn ôl Diddordeb Cyfreithlon. Mae eich hawliau fel a ganlyn:

  • Yr hawl i gael mynediad at, gweld ac adolygu gwybodaeth mewn modd amserol 
  • Yr hawl i gael eich anghofio, sy’n golygu dileu eich data o’n cofnodion, (gallwch gysylltu â’r tîm ar erammp@ceh.ac.uk ar unrhyw adeg i ofyn i ni ddileu eich manylion).   

Os oes unrhyw bryderon gennych ynglŷn â sut y mae eich data yn cael ei ddefnyddio, byddwn yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data CEH ar cehdataprotection@ceh.ac.uk

Mae’r hawl gennych hefyd i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ac mae’r hawl gennych i rwymedi barnwrol effeithiol yn erbyn penderfyniadau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. 

Dileu Data 

Byddwn yn cadw dim ond y data personol sy’n angenrheidiol i ni weithredu ERAMMP yn effeithiol. 

Byddwn yn adolygu’r data personol sydd gennym yn flynyddol ac yn dileu unrhyw ddata nad oes ei angen bellach. 

Mewn sefyllfaoedd o’r fath, efallai y byddwn yn ystyried fod rhaid cadw rhywfaint o ddata er mwyn parhau i gyfathrebu â’r rhai sydd dan sylw. 

Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd 

Efallai bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cael ei newid o bryd i’w gilydd. 

Os gwneir newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn y dyfodol, bydd amlwg yn cael ei rannu yng Nghylchlythyr ERAMMP.