Dilynir mesurau bioddiogelwch llym ar gyfer holl arolygon maes ERAMMP gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn gofyn i bob tirfeddiannwr am unrhyw ofynion penodol cyn i dimau’r arolwg ymweld, a byddwn yn dilyn y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Er enghraifft, os yw’n hysbys bod heintiau planhigion neu goed yn bresennol, bydd y timau o syrfewyr yn osgoi’r ardaloedd heintus hyn.
Yn ogystal, gweithredir mesurau i sicrhau bod y tîm yn osgoi dod i gysylltiad â Covid-19 nac yn ei drosglwyddo i eraill. Ni fydd yr arolwg yn mynd yn ei flaen os bydd cyfyngiadau Covid Lefel Rhybudd 4 Llywodraeth Cymru’n weithredol, a dim ond pan fydd yr amodau’n caniatáu y bydd yn mynd ymlaen, gan gadw at ofynion asesiad-risg Covid y cytunwyd arnynt.
Y Protocolau
Mae’r protocolau hyn ar gyfer gweithwyr maes yr arolwg – bydd manylion llawn y dulliau ac ymarferion yn cael eu cwblhau yn ystod eu hyfforddiant. Gorfodir cydymffurfiad â’r protocol hwn drwy gydol y tymor.
Protocol Bioddiogelwch Arolwg Maes ERAMMP (Dolen i lawrlwytho’r ddogfen) Mae’r protocol hwn yn weithdrefn ofynnol ar gyfer yr holl staff sy’n cynnal arolygon maes i ERAMMP. Mae’r gweithdrefnau bioddiogelwch sydd wedi eu nodi yn y protocol hwn wedi eu cytuno gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen.
Beth yw bioddiogelwch a pham ydy’n bwysig?
Mae bioddiogelwch yn golygu cymryd camau i sicrhau bod arferion da ar waith i leihau a chadw’r risg o ledaenu heintiau bywyd gwyllt a rhywogaethau anfrodorol ymledol mor isel â phosib. Mae’n hanfodol cael gweithdrefn bioamrywiaeth reolaidd, hyd yn oed os nad oes arwyddion o haint na rhywogaethau anfrodorol mewn safle maes. Mae arferion bioddiogelwch da yn lleihau’r risg i’r amgylchedd a bywyd gwyllt, yn ogystal â bod o fudd i fusnesau, tirfeddianwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae hefyd yn addysgu ac yn tawelu meddwl y cyhoedd drwy osod esiampl o arfer da, dangos parch at gymunedau lleol, a dangos agwedd broffesiynol.
Y Weithdrefn Fioddiogelwch
Y Weithdrefn Fioddiogelwch Bydd syrfewyr yn ymwybodol o unrhyw fesurau ychwanegol sy’n ofynnol neu y gofynnir amdanynt ar gyfer yr arolwg hwn cyn ymweld â phob fferm neu ddarn o dir.
Fodd bynnag, mae ERAMMP yn cymryd agwedd ragofalus tuag at fioddiogelwch ac yn tybio, hyd yn oed os nad oes bygythiad i fioddiogelwch wedi ei ganfod ar safle, nad yw hynny’n golygu nad oes bygythiad yno.
Mae ERAMMP yn defnyddio diheintydd LSP Virkon™ sydd wedi’i gymeradwyo a’i brofi’n annibynnol i fod yn hynod effeithiol yn erbyn ystod eang o bathogenau firaol, bacteriol a ffwngaidd sy’n achosi clefyd sy’n effeithio ar ddofednod, moch, gwartheg, defaid a da byw eraill, gan gynnwys ffliw adar, ffliw moch H1N, clwy’r traed a’r genau, PRRS, salmonela, campylobacter, twbercwlosis, a chlefyd pothellog y moch.
Beth sy’n digwydd os bydden nhw’n canfod rhywbeth?
Yn ystod ymweliad safle, os amheuir bod unrhyw glefyd neu bla nad oedd yn hysbys cyn hynny, bydd y rheolwr arolwg maes ERAMMP yn cael gwybod.
Bydd y rheolwr arolwg maes yn gyfrifol am sicrhau bod adroddiadau ac ymchwiliadau priodol yn cael eu gweithredu heb oedi, a bod rhagofalon dros dro’n cael eu gweithredu nes bydd y canlyniad yn hysbys.
Bydd syrfewyr yn:
- Sicrhau bod eu hesgidiau’n lân (i’w gweld yn rhydd o bridd a malurion) ac, os yw’n angenrheidiol, yn eu brwsio neu eu golchi gyda dŵr a sebon.
- Glanhau ac yn diheintio eu hesgidiau wrth fynd i mewn i bob daliad tir a hefyd cyn gadael.
- Glanhau a diheintio esgidiau os ydyn nhw’n symud rhwng daliadau tir ar droed.
- Sicrhau bod eu cerbyd yn cael ei gadw’n lân a glanhau unrhyw fwd sydd wedi casglu oddi arno, yn enwedig o olwynion a bwâu’r olwynion.
- Glanhau a diheintio olwynion ceir cyn mynd i mewn i bob daliad tir a hefyd diheintio ar ymylon y safle wrth adael.
- Osgoi gadael i unrhyw ddŵr ffo sydd wedi’i halogi i lifo mewn i gyrsiau dŵr neu systemau draenio eraill.
- Cadw nifer y cerbydau sy’n cael mynediad i’r lleiafswm: h.y. peidio mynd i ardaloedd yn ddiangen a cheisio cadw at y llwybrau swyddogol.
- Parchu unrhyw rybuddion neu gyfarwyddiadau.