Available translations: English

Caiff lleoliadau arolwg tir eu dewis i sicrhau sylw da i’r holl brif ddosbarthiadau o dir yng Nghymru.

Caiff dosbarthiadau o dir eu diffinio gan nodweddion megis yr hinsawdd, daeareg a thopograffeg. 

Mae'r ymagwedd hon yn sicrhau bod arolwg yn darparu darlun o set gynrychiadol o'r prif dir ffermio, coetir a thir a reolir at ddiben cynefin yng Nghymru. 

Mae ymagwedd yr arolwg hefyd yn cydnabod bod ein hadnoddau naturiol yn rhyngddibynnol ac yn effeithio ar ei gilydd ac felly mae’n bwysig ein bod ni’n gallu cyd-leoli llawer o fesuriadau o fewn yr un sgwarau 1km yn yr arolwg.

 

Image
GMEP square locations 2

Lleoliad sgwariau arolwg GMEP

Roedd sampl fonitro GMEP yn cynnwys 300 o gwarau arolwg ledled Cymru: 150 o sgwarau ‘Cymru Ehangach’ a ‘Sgwarau a Dargedir’. 

Sgwarau Cymru Ehangach’ yw safleoedd a ddewisir fel cynrychiolwyr Cymru ac maent yn annibynnol ar reoli tir ffermio a gorchudd. Caiff yr ardaloedd eu samplo ar hap o fewn strata ar sail dosbarthiadau o dir. Y nod yw creu darlun o dueddiadau, gwrthffeithiau a chymariaethau gwaelodlin allweddol. 

Sgwarau a Dargedir: caiff y rhain eu dewis ar hap mewn ardaloedd sy’n sgorio uchaf ar gyfer taliadau Glastir Uwch. Mae dethol yn defnyddio system sgorio Llywodraeth Cymru i gyfuno mapiau o flaenoriaethau Glastir a chaiff sgwariau eu dewis i’w mapio ar ardaloedd a nodwyd fel blaenoriaethau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer taliadau Glastir Uwch.

Rhagor am Arolwg Maes Cenedlaethol ERAMMP...