Available translations: English

Mae Arolwg Maes Cenedlaethol ERAMMP yn adeiladau ar arolygon GMEP a gynhaliwyd rhwng 2013 a 2016 ac er mwyn bod yn gyson, mae’n cyd-fynd â dulliau Arolwg Cefn Gwlad Prydain Fawr UKCEH, sy’n cynnig amcangyfrifon cadarn o ddangosyddion ar lefel genedlaethol ac is-genedlaethol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. 

Bydd arolwg ERAMMP yn ailystyried y sgwariau a arolygwyd dan GMEP i fesur newidiadau yng nghefn gwlad Cymru dros amser i werthuso effaith ar dir fel rhan o’r cynllun Glastir. 

Ystadegau Arolwg ers 2013

660km

Cerdded o drawlsuniau ar gyfer peillwyr

45,000

metr sgwâr gyda chwiliadau am beillwyr wedi’u hamserlenni

4300

o arolygon o lystyfiant a oedd yn cynnwys coetych a glannau nentydd

1100

o nodweddion tirwedd wedi’u mapio

Ym mhob lleoliad, bydd y tîm o fesurwyr proffesiynol yn cofnodi neu’n casglu: 

Llystyfiant

Asesiadau i gofnodi presenoldeb a helaethrwydd rhywogaethau o blanhigion, gyda newid mewn llystyfiant yn cael ei fynegi gan fath o gynefin a lleoliad y dirwedd. 

Craidd pridd

Wedi’u samplu o 5 pwynt ar draws pob 1km sgwâr, gan ei gwneud hi’n bosib astudio newidiadau mewn sawl nodwedd pridd uchaf allweddol.  

Erydu pridd

Caiff nodweddion eu cofnodi at ddibenion cymharu i astudiaeth arsylwi pridd (dolen i’r dudalen astudio EO). 

Ffotograffiaeth tirluniau

Mae lluniau pwynt sefydlog yn cynnig lluniau y gellir eu hailadrodd i fonitro tirwedd weledol yn newid dros amser. 

Nodweddion amgylcheddau hanesyddol

Ailystyried safleoedd i feintioli newid dros amser ar gyfer amddiffyniad statudol Henebion Hynafol Cofrestredig o bwys cenedlaethol a Nodweddion Amgylcheddol Hanesyddol sy’n bwysig yn rhanbarthol. 

Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Caiff y cyflwr ei gofnodi ar fapiau digidol.  

Coetiroedd a nodweddion llinellol

Caiff helaethrwydd, cyfansoddiad a chyflwr eu mapio, gan gynnwys nodweddion pwynt coetiroedd, megis coed hynafol.  

Dyfroedd Croyw

Caiff blaenddyfroedd a phyllau eu hasesu am nodweddion megis arwynebedd a nodweddion ffisegol a chemegol (h.y. dyfnder, dargludedd, pH, tyrfedd) ac ar gyfer bioleg gwlypter (h.y. cymunedau o blanhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn). Yn gyffredinol, mae arolygon nentydd yn dilyn dulliau Arolwg Cynefinoedd Afonydd.  

Adar

Amcangyfrif cyfanswm nifer a chynefin parau magu o rywogaethau o adar sy’n bresennol. 

Peillwyr

Bydd hyn yn canolbwyntio ar dri phrif grŵp o bryfed: gloÿnnod byw, gwenyn a phryfed hofran. Caiff gloÿnnod byw eu cofnodi ar lefel rhywogaeth, ond bydd gwenyn a phryfed hofran eu cofnodi fel grwpiau ar sail gwahaniaethau eang o ran nodweddion morffolegol sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau ecolegol.