Available translations: English

Caiff gwaith maes ERAMMP ei gynnal gan dîm o 37 o fesurwyr proffesiynol profiadol a benodir gan UKCEH. 

Mae ganddynt lefel uchel o sgiliau technegol eisoes fel botanegwyr, ond cyn dechrau'r arolwg, maent yn cwblhau rhaglen hyfforddi gynhwysfawr tair wythnos o hyd a fydd yn cynnwys pob agwedd ar gasglu data, iechyd a diogelwch, protocolau bioamrywiaeth, cymorth cyntaf a gyrru oddi ar ffyrdd. 

Mae’r mesurwyr yn gweithio mewn timoedd gan ddilyn dulliau arolwg manwl a ddogfennwyd mewn llawlyfrau maes, i sicrhau cysondeb a chymharedd. 

Sut caiff data ei asesu?  

Fel yn achos holl ddata arolwg, mae bob amser amrywiad anochel wrth gofnodi. Felly, mae ein tîm o wyddonwyr yn llunio mesur meintiol a rhagweladwy o gysondeb a dibynadwyedd data. Cynhelir ymarfer sicrhau ansawdd arbenigol ac annibynnol ar wahân, gan ail-samplu nifer fach o leoliadau, i ddeall a sicrhau nad oes tueddiad sylweddol yn y data a gasglwyd. 

Ystadegau Arolwg ers 2013

250

Aseswyd cyflwr o nodweddion hanesyddol

8000

Cymerwyd o samplau o bridd at ddiben dadansoddi ffisegol, cemegol ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn ac amrywiaeth microbiaidd

150

o Arolygon Cynefinoedd Afonydd (RHS)

150

Aseswyd o byllau ar gyfer anifeiliaid di-asgwrn-cefn, diatomau, cynefin ffisegol a chemeg y dŵr

Beth sy’n cael ei ddadansoddi? 

Caiff samplau o bridd a dŵr eu dadansoddi yn labordai UKCEH yn naill ai Bangor neu Gaerhirfryn. 

Caiff samplau eu paratoi ar gyfer dadansoddiad cemegol a ffisegol manwl. 

Yn achos samplau o bridd, rydym ni’n mesur: pH, colled ar danio, carbon, nitrogen, ffosfforws, dwysedd swmp, cynnwys lleithder (cyfeintiol a graffimetrig), mandylledd a dyfnder y mawn 

Caiff samplau o ddŵr eu dadansoddi ar gyfer: detholiad o nodweddion strwythurol, hydrolegol a biolegol, niferoedd o rywogaethau anifeiliaid di-asgwrn-cefn a chategorïau o rywogaethau o blanhigion dyfrol 

Caiff y samplau a’r arsylwadau a gesglir, o’r gorffennol a’r presennol, eu hastudio i ddatgelu tueddiadau byr-dymor a hir-dymor. Caiff yr holl samplau a data eu storio yng nghyfleusterau diogel UKCEH ym Mangor a Chaerhirfryn. 

Drwy fabwysiadu ‘ymagwedd ecosystemau’ o gyd-leoli'r holl fesuriadau, gall gwyddonwyr ymchwil UKCEH ddatgelu a meintioli'r sbardunwyr rhyng-gysylltiedig ac effeithiau newid amgylcheddol a gwneud amcangyfrifon o fesuriadau amgylcheddol ledled Cymru.