Available translations: English

Os ydych chi wedi rhoi eich manylion i weinyddwyr cynllun Taliadau Gwledig Cymru  Llywodraeth Cymru, neu wedi eu diweddaru gyda nhw, yn 2021 a 2022, mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi: Datganiad Preifatrwydd

Os nad ydych chi wedi gwneud unrhyw hawliadau i gynllun(iau) Taliadau Gwledig Cymru Llywodraeth Cymru nac wedi diweddaru neu roi eich manylion i’r cynlluniau mewn ffordd arall, mae polisi preifatrwydd Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH) isod yn berthnasol i chi.  

Datganiad Preifatrwydd Arolwg Maes UKCEH 

Mae Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a’r Amgylchedd (ERAMMP) yn brosiect Llywodraeth Cymru a gontractiwyd i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH).  ERAMMP yw olynydd y Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP) ac roedd y ddau brosiect yn cynnwys arolwg maes cenedlaethol (AMC) a gasglodd ddata o bob rhan o dirwedd Cymru.  

Mae ERAMMP yn darparu gwaith monitro a gwerthuso cynllun rheoli tir Glastir i nodi effeithiau a manteision Glastir i gefnogi datblygiad polisi gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn darparu AMC llwyddiannus, mae UKCEH yn cysylltu â pherchnogion tir a rheolwyr tir i ofyn caniatâd am gael mynediad i'w tir. 

UKCEH fydd rheolwr data a phrosesydd data'r data personol rydych chi’n ei ddarparu ar gyfer Arolwg Maes Cenedlaethol ERAMMP. Caiff eich gwybodaeth ei phrosesu ar sail buddiant dilys UKCEH wrth gynnal gwaith a dyrannwyd i UKCEH. 

Caiff eich data personol ei ddal am hyd rhaglen ERAMMP yn unig, ac wedi hynny, bydd UKCEH yn dileu eich data personol o systemau UKCEH. 

Bydd UKCEH dim ond yn cadw data personol perchnogion tir a rheolwyr tir â thir mewn ardaloedd arolygon maes ERAMMP. Caiff y data personol hwn ei ddefnyddio i drefnu a chynnal arolygon maes. Ni fydd canfyddiadau ERAMMP yn cyfeirio at unigolion. 

Efallai y caiff eich gwybodaeth bersonol ei rhannu â thrydydd partïon sy’n ymwneud yn uniongyrchol â darparu AMC ERAMMP. Mae hyn yn cynnwys aelodau o gonsortiwm ERAMMP sy’n ymwneud â chynnal yr AMC, arolygwyr maes a gontractiwyd a chwmni postio swmp UKCEH.  

Ni chaiff eich data personol ei rannu â Llywodraeth Cymru. 

Caiff eich data personol ei storio ar systemau diogel. Caiff eich data personol sy’n datgelu eich hunaniaeth ei drosglwyddo ar systemau trosglwyddo data diogel ac achrededig yn unig.    

O dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn perthynas â’r data personol rydych chi’n ei ddarparu i ni:  

  1. Cyrchu copi o’ch data eich hun 
  2. Gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw 
  3. Gwrthod neu gyfyngu prosesu 
  4. Gofyn i ni ddileu eich data  
  5. Cyflwyno cwyn gerbron Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol mewn perthynas â diogelu data.  

Gallwn ni dim ond arfer unrhyw rai o’r 5 hawl uchod lle bydd eich data’n adnabyddadwy’n unigol; nid lle mae’r data wedi’i wneud yn ddienw neu wedi’i gyfuno â data arall. 

Mae manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire. SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: https://ico.org.uk/ 

Rhagor o Wybodaeth  

Os oes gennych chi gwestiynau am ddefnydd data ar gyfer prosiect ERAMMP, cysylltwch â:  

Bronwen Williams. UKCEH, Canolfan yr Amgylchedd Cymru, Heol Deiniol, Bangor, LL57 2UW  

erammp@ceh.ac.uk  

Os oes gennych chi unrhyw bryderon neu gwynion am ddefnydd eich data personol o fewn ERAMMP, byddwn yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data UKCEH drwy e-bostio: cehdataprotection@ceh.ac.uk