Am brif bolisi preifatrwydd y Rhaglen
Mae polisi preifatrwydd y Cylchlythyr
Os ydych wedi darparu, neu ddiweddaru eich manylion gyda, gweinyddwyr cynllun Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Llywodraeth Cymru yn 2021 neu 2022, yna mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi. Os na, gweler yma
Datganiad Preifatrwydd
Mae Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig (ERAMMP) yn un o brosiectau Llywodraeth Cymru, ac mae wedi’i gontractio i Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU (UKCEH). Mae’n olynydd i Raglen Monitro a Gwerthuso lwyddiannus Glastir (GMEP). Mae’r rhaglen yn casglu data ar draws tirwedd Cymru ac yn cysylltu unrhyw newidiadau â’u heffeithiau ar amrediad o fanteision. Mae’r rhaglen yn monitro a gwerthuso cynllun Glastir ac yn gwneud ymchwil sy’n ategu’r gwaith o ddatblygu polisïau. Er mwyn cynnal y gwerthusiad, mae angen inni gysylltu â chi i ofyn am ganiatâd i gael mynediad at eich tir.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol a ddefnyddir ar gyfer yr ERAMMP, a UKCEH a fydd yn prosesu’r wybodaeth hon ar ran Llywodraeth Cymru. Prosesir eich gwybodaeth fel rhan o swyddogaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru ac wrth iddi arfer ei hawdurdod cyhoeddus. Dim ond gwybodaeth ynglŷn â thirfeddianwyr sy’n rheoli neu sy’n berchen ar dir yn ardaloedd arolygon y byddwn yn ei chadw a’i defnyddio. Defnyddir eich data personol i drefnu arolygon maes, a bydd canfyddiadau proses werthuso’r ERAMMP yn cael eu crynhoi heb gyfeirio at unigolion.
Rhennir eich gwybodaeth bersonol â rhannau perthnasol consortiwm yr ERAMMP, a thrydydd partïon sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni’r prosiect, fel syrfewyr wedi eu contractio, rheolwyr ansawdd arolygon annibynnol a’r cwmni rydym yn ei ddefnyddio i bostio eitemau swmpus.
Bydd eich data personol yn cael ei storio ar systemau diogel. Ni fydd data personol, y gellir ei gysylltu ag unigolyn yn cael ei drosglwyddo ond gan ddefnyddio systemau presennol sydd wedi eu hachredu i drosglwyddo data’n ddiogelu.
Dim ond am hyd contract yr ERAMMP y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw. Ar ôl hynny bydd UKCEH yn sicrhau bod copi’n cael ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru, a dileu’r wybodaeth o’u systemau. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich gwybodaeth bersonol am bum mlynedd ar ôl diwedd y contract, yn unol a’i pholisi cadw gwybodaeth.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) mae gennych hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi inni i’n galluogi i’ch helpu chi. Yn benodol mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- Cael mynediad at gopi o’ch data eich hun
- Gofyn inni gywiro data anghywir
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data (mewn rhai amgylchiadau)
- Gofyn inni ddileu eich data (mewn rhai amgylchiadau),a
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire. SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd mae data ar gyfer prosiect ERAMMP yn cael ei ddefnyddio, cysylltwch â:
Bronwen Williams, Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU, Canolfan yr Amgylchedd Cymru, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd. LL57 2UK
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y ffordd bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir gennych, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru