Available Translations:
Un o linynnau allweddol ERAMMP yw gwneud Arolwg Maes Cenedlaethol yng Nghymru yn 2021/22 i ddarparu gwybodaeth ar gyfer gwerthuso cynllun rheoli tir Glastir.
Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ail-samplu 130 o’r 300 sgwâr 1km a samplwyd yn ystod Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP, 2013-2016) pan gasglwyd y data sylfaenol. Bydd ein tîm arbenigol o 37 arolygwr yn cofnodi sawl agwedd o gefn gwlad Cymru, yn cynnwys ei gynefinoedd, rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid, dŵr, priddoedd, nodweddion diwylliannol a chyflwr y llwybrau.
Bydd gwaith y dyfodol yn cofnodi’r newid parhaus yng nghyflwr amgylchedd naturiol Cymru gan gyfeirio at ddata hanesyddol sy’n mynd yn ôl cyn belled â’r 1970au.
Gair am yr Arolwg Cenedlaethol
Mae Arolwg Maes Cenedlaethol ERAMMP yn giplun blynyddol i fapio cyflwr yr amgylchedd naturiol ledled Cymru ac mae hefyd yn caniatáu i effaith cynllun rheoli tir Glastir gael ei olrhain.
| Mae’r mesuriadau’n cynnwys:
|
Rydym yn cofnodi patrymau tymor hir a thymor byr, dros y 40 blynedd diwethaf mewn rhai achosion, gan adeiladu ar arolygon GMEP blaenorol, ac arolygon eraill fel Arolwg Cefn Gwlad UKCEH.
Nid yw’r arolwg yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â phrosesau cydymffurfio neu arolygu ar gyfer unrhyw gynllun taliadau fferm.