Available Translations:
Mae Llwyfan Modelu Integredig (IMP) ERAMMP yn fodel cyfrifiadurol sy’n efelychu effeithiau posibl polisïau’r llywodraeth ar amaethyddiaeth a’r amgylchedd naturiol yng Nghymru.
Mae’r IMP wedi’i gyd-ddylunio gan gonsortiwm ERAMMP a Llywodraeth Cymru. Mae wedi’i deilwra’n benodol i ddarparu gwybodaeth i gefnogi datblygiad polisïau newydd sy’n canolbwyntio ar reoli adnoddau naturiol, defnydd tir ac amaethyddiaeth o dan amrediad o ddyfodolau economaidd a rheoleiddiol Cymru. Mae’r IMP yn caniatáu archwilio a phrofi straen syniadau polisi sy’n dod i’r amlwg cyn eu dylunio’n derfynol a’u gweithredu.
Mae’r IMP yn cynnwys cadwyn o fodelau arbenigol o’r radd flaenaf wedi’u haddasu (cystal â phosibl) yn ôl data Cymru. Mae’r modelau hyn yn ymdrin ag amaethyddiaeth, coedwigaeth, dyraniad defnydd tir, bio-amrywiaeth ac amrediad o wasanaethau ecosystem (gan gynnwys ansawdd dŵr, ansawdd aer, allyriadau nwyon tŷ gwydr/atafelu carbon) a’u prisio. Mae’r IMP yn mabwysiadu ymagwedd integredig sy’n cydnabod bod gan effeithiau polisi mewn un sector effeithiau anuniongyrchol mewn sectorau eraill. Yn y modd hwn, mae’r IMP yn cyfrif yn benodol am y rhyngweithio bioffisegol ac economaidd-gymdeithasol rhwng sectorau.
Mae’r model wedi’i ddynodi’n hanfodol i fusnes gan Lywodraeth Cymru ac, o ganlyniad, mae’n cydymffurfio â phrosesau llym sicrhau ansawdd Aqua Book llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys ffocws ar dryloywder o ran y rhagdybiaethau sy’n sail i’r model ac asesiad beirniadol o sut y dylai ac na ddylai canlyniadau’r model gael eu dehongli.
Mae IMP ERAMMP yn offeryn amhrisiadwy am archwilio a phrofi straen syniadau mewn modd integredig. Fodd bynnag, mae’n rhan yn unig o’r wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i gefnogi eu penderfyniadau. Mae’r ymagwedd dryloyw, hunan-feirniadol, ailadroddol yn hanfodol i amlygu ble mae angen gwybodaeth o ffynonellau eraill er mwyn rhoi’r penderfyniadau a wneir yn eu cyd-destun.
Mae datblygiad yr IMP yn cael ei arwain gan UKCEH mewn partneriaeth â Phrifysgol Cranfield, Forest Research, RSK ADAS, BTO ac eftec; gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru.
Alinio’r IMP i Amcanion Polisi
Nod pennaf yr IMP yw llywio datblygiad polisi drwy gynnig asesiadau cyflym, integredig o effeithiau newid polisi neu senarios economaidd ar amaethyddiaeth a’r amgylchedd.
Mae’r IMP wedi’i ddefnyddio i ymchwilio i effeithiau cytundebau masnach yn dilyn ymadael â’r UE ar ddefnydd tir, amaethyddiaeth a nwyddau cyhoeddus / gwasanaethau ecosystem. Mae’n cael ei addasu ymhellach i gefnogi datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) yn uniongyrchol; cynllun Llywodraeth Cymru i gymryd lle Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.
Mae ymyriadau polisi (fel newidiadau mewn cymorthdaliadau amaethyddol a thaliadau cynlluniau) a chymhellion allanol (fel newidiadau mewn prisiau nwyddau oherwydd perthnasoedd masnachu newydd) yn fewnbynnau ar gyfer yr IMP, ynghyd â newidynnau amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol eraill.
Mae cymhwyso senarios lluosog (sy’n cynnwys newidiadau cyson mewn amrediad o fewnbynnau) yn galluogi archwilio ar garlam eu heffeithiau ar ganlyniadau amaethyddol, economaidd-gymdeithasol, a nwyddau cyhoeddus/ gwasanaethau ecosystem.
Lle bo modd, mae archwiliad integredig a chyflym polisi adnoddau naturiol a rheolaeth tir o dan amrediad o senarios y dyfodol yn cyd-fynd ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru gan gynnwys:
|
|
Allbynnau’r IMP
Mae’r IMP yn galluogi asesiad cyflym integredig o opsiynau polisi adnoddau naturiol. Mae’r model yn asesu newidiadau mewn:
- Math a phroffidioldeb ffermydd
- Incwm amaethyddol
- Cynhyrchedd amaethyddol
- Defnydd tir a niferoedd da byw
- Addasrwydd poblogaethau rhywogaethau ar gyfer planhigion ac adar
- Cysylltedd cynefinoedd coetir
- Cynhyrchedd coetir a chynhyrchion pren a gynaeafir
- Carbon mewn priddoedd, llystyfiant a biomas
- Allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddefnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth, amaethyddiaeth a mawn
- Ansawdd dŵr (llwyth nitradau, ffosfforws a gwaddodion)
- Statws P y Gyfarwyddeb fframwaith dŵr a statws N dŵr yfed
- Ansawdd aer (crynodiadau PM2.5 ac effeithiau ar iechyd dynol)
- Gwerthoedd ar draws amrediad o nwyddau cyhoeddus / gwasanaethau ecosystem dros 5, 25 a 75 o flynyddoedd
Dysgu mwy ...
Pensaernïaeth IMP a chydrannau enghreifftiol
IMP Modiwl Dyrannu Tir (MDT) - cliciwch yma
Beth Mae’r Modelau yn eu Gwneud a Sut Fyddan Nhw’n Cael eu Cyfuno?
Llwyfan Modelu Integredig Infographic