Available Translations:
Beth sy’n digwydd yn yr arolwg?
Mae Arolwg Maes Cenedlaethol ERAMMP yn adeiladu ar yr arolygon y Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (GMEP) a wnaed rhwng 2013 a 2016 ac, er mwyn cysondeb, yn alinio â dulliau Arolwg Cefn Gwlad Prydain UKCEH, sy’n rhoi amcangyfrifon cadarn o ddangosyddion ar lefelau cenedlaethol ac is-genedlaethol ledled Cymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd yr arolwg ERAMMP yn 2021/2022 yn ailedrych ar 130 sgwâr 1km wrth 1km a arolygwyd o dan GMEP, i fesur newidiadau yng nghefn gwlad Cymru dros amser, er mwyn gwerthuso beth yw’r effaith ar y tir o fod yn rhan o gynllun rheoli tir Glastir.
Ym mhob lleoliad, bydd tîm o syrfewyr proffesiynol yn cofnodi neu’n casglu:
Llystyfiant: Gwneir asesiadau i gofnodi’r rhywogaethau planhigion, gyda newid mewn llystyfiant yn cael ei fynegi yn ôl y math o gynefin a lleoliad y dirwedd.
Creiddiau pridd: Cymerir sampl o uwchbridd (0-15cm) o bum pwynt ar draws pob sgwâr arolwg yn yr un lle â’r asesiad llystyfiant, gan alluogi i newidiadau yn nodweddion yr uwchbridd gael eu hastudio, ac i ddeall yn well beth yw’r cysylltiad â’r newid yn y llystyfiant.
Erydiad y pridd: Mae nodweddion diraddiad y pridd, megis erydiad, yn cael eu cofnodi er mwyn gwneud cymariaethau gydag astudiaeth arsylwi daear.
Ffotograffau o’r dirwedd: Tynnir lluniau o bwynt sefydlog i ddarparu cyfres o luniau tebyg er mwyn monitro newid gweladwy yn y tirwedd dros amser.
Nodweddion amgylcheddol hanesyddol: Mae cyflwr a bygythiadau i Henebion Cofrestredig sy’n genedlaethol bwysig a Nodweddion Amgylcheddol Hanesyddol sy’n rhanbarthol bwysig yn cael eu cofnodi gyda’r nodweddion sy’n cael eu blaenoriaethu gan CADW.
Hawliau tramwy cyhoeddus: Cofnodir cyflwr llwybrau ar fapiau digidol.
Coetir a nodweddion llinol: Mae eu maint, eu cyfansoddiad a’u cyflwr yn cael eu mapio, yn cynnwys nodweddion penodol y coetir fel coed hynafol.
Dyfroedd croyw: Asesir rhagnentydd a phyllau i nodi nodweddion ffisegol a chemegol (h.y. dyfnder, dargludedd, pH, tyrfedd) a bioleg gwlyptiroedd (h.y. cymunedau planhigion, infertebratau). Mae’r arolygon nentydd yn dilyn yr un fformat â’r Arolygon Cynefinoedd Afonydd.
Yn ogystal, mewn mwy na 75 o’r lleoliadau, bydd y syrfewyr yn cofnodi:
Adar: Cyfanswm y nifer a chynefinoedd y parau sy’n bridio o rywogaethau adar sydd i’w cael yn sgwariau’r arolwg.
Peillwyr: Cofnodir tri phrif grŵp: gloÿnnod byw, gwenyn a phryfed hofran. Cofnodir gloÿnnod byw i lefel rhywogaeth, tra bod gwenyn a phryfed hofran yn cael eu cofnodi fel grwpiau ar sail y gwahaniaethau eang mewn nodweddion morffolegol sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau ecolegol.
Beth sy’n cael ei ddadansoddi?
Dadansoddir y samplau pridd a dŵr yn labordai UKCEH naill ai ym Mangor neu gan wasanaethau dadansoddol arbenigol.
Paratoir y samplau i gael dadansoddiad cemegol a ffisegol.
Ar gyfer y samplau pridd byddwn yn mesur:
- pH (asidedd/alcalinedd)
- Colled wrth danio
- Carbon
- Nitrogen
- Ffosfforws
- Swmp-ddwysedd
- Cynnwys lleithder (cyfeintiol a grafimetrig)
- Mandylledd
- Dyfnder y mawn
Mae’r mesuriadau yn y gorffennol wedi cynnwys infertebratau a microbau hefyd. Nid yw’r dadansoddiadau hyn yn cael eu hailadrodd y tro hwn ond mae samplau wedi eu rhewi a’u sychu’n cael eu harchifo i alluogi dadansoddiad yn y dyfodol os daw’r arian ar gael ar gyfer gwneud hynny.
Mae’r samplau dŵr hyn yn cael eu dadansoddi i ganfod:
- detholiad o nodweddion strwythurol, hydrolegol a biolegol
- cyfrifiad o rywogaethau infertebrat
- categorïau o rywogaethau planhigion dyfrol
Mae’r samplau a’r arsylwadau a gesglir y tro hwn, a’r rhai a gasglwyd yn y gorffennol, yn cael eu hastudio i ganfod patrymau tymor byr a thymor hir. Mae’r samplau a’r data i gyd yn cael eu storio yng nghyfleusterau archif ddiogel UKCEH ym Mangor a Chaerhirfryn.
Trwy fabwysiadu’r ‘dull ecosystemau’ o gyd-leoli’r holl fesuriadau, gall y gwyddonwyr ymchwil yn UKCEH ganfod a mesur y gyrwyr ac effeithiau cyd-gysylltiedig a’r newid amgylcheddol a gwneud amcangyfrifon ehangach am fesurau amgylcheddol drwy Gymru gyfan.