Available Translations:
Fel arfer, mae Arsylwi`r Ddaear a Synhwyro Pell yn cyfeirio at synhwyro delweddau lloeren, yn yr awyr a drôn o olau gweladwy, is-goch, uwch-fioled o arwynebedd y ddaear. Mae technolegau gweithredol fel LiDAR a RADAR yn cael eu defnyddio hefyd.
Mae Arsylwi`r Ddaear yn darparu cyfle cyffrous ar gyfer monitro ac asesu.
Gall EO a thechnegau synhwyro pell eraill gefnogi asesiadau cyflwr "ar y llawr" i helpu deall stâd bresennol yr adnoddau naturiol, yngyd â nodi newidiadau a thueddiadau wrth gael eu cymharu gyda data`r gorffennol.
Mae `na lawer o ddefnyddiau posib o EO a synhwyro pell. Mae defnyddio`r technolegau hyn yn gallu torri lawr ar y nifer o ymweliadau maes sydd eu hangen, maen ei wneud e`n haws i ennill gwybodaeth am ardaloedd anghysbell, ac mae ymweliadau ailadroddus rheolaidd gan loerennau yn golygu ein bod ni`n gallu gwneud arsylwadau cyson o`r un nodweddion i fonitro newidiadau amgylcheddol.
Mae`r gallu i gyfuno buddiannau EO a synhwyro pell gyda rhaglen gadarn ar gyfer y ddaear (fel mae ERAMMP yn gwneud drwy`r Arolwg Maes Cenedlaethol) yn golygu ein bod yn gallu bod yn hyderus o`n canlyniadau, o olygfeydd ar raddfa eang o gyflwr cyffredinol ardal lawr i asesiad o nodweddion unigol yn y dirwedd.
O fewn ERAMMP, mae EO yn bennaf yn cael ei ddefnyddio i ganfod ac asesu difrifoldeb o erydiad a difrod pridd, ac i nodi nodweddion llinellol tirwedd fel perthi.
Dewch o hyd i fwy yn y dolenni isod.
Adroddiad-14: Datblygu Dulliau Mapio Cynefinoedd ar Raddfa Lai ERAMMP Adroddiad-14 Mapio Cynefinoedd
Adroddiad-18: Technolegau i Gasglu Tystiolaeth ynghylch Erydiad Pridd ERAMMP Adroddiad-18 Erydiad Pridd
Adroddiad-45: Diraddio Pridd: Erydiad a Chywasgiad ERAMMP Rpt-45 Diraddio Pridd
Adroddiad-56: Addasrwydd Data Lloeren a LiDAR ar gyfer Mapio Gwrychoedd ERAMMP Adroddiad-56 Mapio Gwrychoedd
Adroddiad-57: Profi Datrys Delwedd ar gyfer Nodweddion Erydiad a Niwed Pridd ERAMMP Rpt-57 EO Erydiad a Niwed