Available Translations:
Beth yw ERAMMP?
Mae Rhaglen Monitro a Modelu Materion Gwledig a'r Amgylchedd Llywodraeth Cymru (ERAMMP) yn dilyn ymlaen o GMEP (2012-2016) a sefydlwyd i fonitro adnoddau naturiol Cymru ac i werthuso effeithiau cynllun Glastir hefyd. Mae’r ERAMMP yn cynnwys arolwg maes cenedlaethol ar raddfa fawr o adnoddau naturiol Cymru.
Beth mae arolwg ERAMMP yn ei wneud?
Bydd arolwg ERAMMP yn mapio ac yn asesu cyflwr cynefinoedd gan gynnwys coetiroedd, gwrychoedd, blaenddyfroedd a phyllau. Bydd ein gwyddonwyr hefyd yn edrych ar ansawdd y dirwedd, cyflwr nodweddion hanesyddol a hawliau tramwy cyhoeddus ac amrywiaeth adar a pheillwyr. Byddwn yn cofnodi tueddiadau tymor byr a thymor hir, dros y 40 mlynedd diwethaf mewn rhai achosion, gan adeiladu ar GMEP ac arolygon blaenorol eraill. Nid yw'r arolwg yr ydym yn ei gynnal yn 2021 yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â chydymffurfedd na'r broses arolygu ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol, Glastir, nac unrhyw Gynllun arall gan Lywodraeth Cymru ac ni fydd yn effeithio ar eich taliadau cyfredol.
Pryd fydd y timau arolygu yn cyrraedd fy nhir?
Bydd yr arolygon yn cael eu cynnal rhwng Ebrill a Medi 2021. Mae'r tabl isod yn rhoi rhagor o fanylion. Byddwn yn cysylltu â chi cyn yr arolwg i wneud trefniadau terfynol a thrafod unrhyw faterion eraill yr hoffech i'r syrfewyr wybod amdanynt.
Tîm | Mis | Blwyddyn | Amser y Dydd | Syrfewyr | Nifer yr ymweliadau |
Prif (planhigion, priddoedd a nodweddion hanesyddol) | Ebrill - Medi | 2021 | 9am - 6pm | 2 | 1 |
Dŵr croyw | Ebrill - Medi | 2021 | 9am - 6pm | 1 | 1 |
Mapio Coetir | Mehefin - Medi | 2021 | 9am - 6pm | 1 | 1 |
Aderyn | Ebrill - Mehefin | 2021 | Bore cynnar | 1 | 2 |
Peilliwr | Gorffennaf ac Awst | 2021 | 9am - 6pm | 1 | 2 |
Sut y cefais fy newis?
Ni ddewiswyd unrhyw berson unigol. Dewiswyd tir ar hap fel rhan o GMEP ac mae ERAMMP yn ail-ymweld â'r un tir.
Beth am breifatrwydd?
Darparwyd eich manylion cyswllt i ni gan Lywodraeth Cymru neu'r Gofrestrfa Tir er mwyn cynnal yr arolwg hwn yn unig. Rydym yn dilyn y lefelau uchaf o ddiogelwch data a chyfrinachedd. Nid yw unigolion na'u daliadau tir byth yn cael eu nodi wrth adrodd ar ganlyniadau'r arolwg. Gweler y llythyr atodedig ar gyfer ein Polisi Preifatrwydd.
Gyda phwy y gallaf gysylltu am yr arolwg?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu feddyliau ynglŷn â'r arolwg, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Swyddfa Arolwg ERAMMP ar:
erammp@ceh.ac.uk